
Addewid Coetir Wrecsam
Mae coed a choetir yn rhan hanfodol i’n trefi a chefn gwlad. Maent yn bwysig ar gyfer ein hiechyd, lles ac ansawdd bywyd. Ni allwn warantu eu dyfodol.
Mae newid yn yr hinsawdd:, plâu ac afiechydon, datblygiad, arferion amaethyddol modern a chanfyddiadau anaddas o risgiau yn rhai o broblemau sydd yn bygwth ein coed.
Yng Nghyngor Wrecsam, rydym wedi datblygu 'Addewid Wrecsam' i helpu diogelu coed a choetir ar draws y fwrdeistref sirol. Hefyd, mae’r addewid yn annog pobl i fynd tu allan i fwynhau coed a choetir yn eu hardal.
Ymuno â’r Addewid
Os ydych yn bryderus am goed a choetir yn Wrecsam, rydym eisiau i chi lofnodi’r addewid i ddangos eich cefnogaeth.
Rydym eisiau annog pawb i ymuno, gan gynnwys y rhai sydd yn rhan o fusnesau, grwpiau cymunedol neu sefydliadau lleol.
Drwy lofnodi’r addewid, byddwch yn ymuno â’n rhestr gyfeiriadau, lle gallwch ddod o hyd i’r ffyrdd y gallwch ddod yn rhan mewn 4 ffordd wahanol:
- Creu Coetir: Plannu coed i greu coetir newydd neu ehangu coetir presennol ar draws Wrecsam. Helpwch ni i blannu mwy o goed drwy ymuno ag un o’r cynlluniau plannu coed ar draws y sir.
- Cadwraeth Coetir: Diogelu a gwella ardaloedd coetir presennol ar gyfer bioamrywiaeth, adferiad newid yn yr hinsawdd: a chynefin o ansawdd dda.
- Dathlu Coetir: Caniatáu cysylltiad natur o fewn coetir ar gyfer iechyd, lles, chwarae ac addysg.
- Canmoliaeth Coetir: Deall pa mor werthfawr yw coed a choetir yn ein bywydau bob dydd.
Llofnodi’r Addewid
Dechrau rŵan
Cyfnodau
Addewid Coetir Wrecsam
Addewid Coed a Choetiroedd
Mae coed a choetiroedd yn elfen hanfodol o dreflun a thirwedd y Fwrdeistref Sirol ac yn rhan annatod o les, iechyd ac ansawdd bywyd i bawb sy'n byw, gweithio ac yn ymweld â Wrecsam.
Mae coed yn ychwanegu gwerth amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sylweddol i'r fwrdeistref sirol. Fodd bynnag, ni ellir cymryd y dyfodol yn ganiataol, mae newid hinsawdd, plâu ac afiechydon, datblygiad, ymarferion amaethyddol modern a chanfyddiadau anghywir o ran risg yn rai o’r problemau sy’n bygwth ein coed.
Nod ein Strategaeth Coed a Choetiroedd yw bod gennym boblogaeth coed iach ac amrywiol wedi’i warchod a’i reoli’n gynaliadwy gyda digon o orchudd canopi i gael budd ac i ddiwallu anghenion pawb sy'n byw, gweithio ac yn ymweld â Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Rydym ni (Cyngor Wrecsam) wedi datblygu’r ‘Addewid Coetiroedd’ canlynol i ddangos ein hymrwymiad i gynyddu gorchudd coed, ac amddiffyn coetiroedd sy’n bodoli ar draws y fwrdeistref sirol.
- Rydym yn cydnabod cyfraniad allweddol y mae coed yn ei wneud i’n hymateb i’r argyfwng hinsawdd.
- Rydym yn cydnabod a gwerthfawrogi’r amrywiol fuddiannau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd a geir gan goed a choetiroedd.
- Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn a chadw coed a choetiroedd.
- Rydym wedi ymrwymo i greu ardaloedd ychwanegol o goetiroedd, a phlannu coed.
- Rydym yn gweld coed a choetiroedd fel rhan o’n hisadeiledd hanfodol.
- Byddwn yn cynllunio ar gyfer tirwedd a chymunedau mwy gwyrdd.
- Byddwn yn gwella iechyd a lles trwy annog a galluogi cysylltiadau gyda natur a choetiroedd.
- Byddwn yn ymgysylltu â chymunedau lleol wrth reoli, amddiffyn a gwella coed a choetiroedd.
- Byddwn yn edrych am gyfleoedd i weithio gydag amrywiol bartneriaid i wneud y mwyaf o gyfleoedd i greu ac amddiffyn coetiroedd ar draws y Fwrdeistref Sirol e.e. Coedwig Wrecsam.
- Rydym yn adnewyddu ein hymrwymiad i sicrhau fod nodau ac amcanion ein Strategaeth Coed a Choetiroedd yn gallu cael eu cyflawni.
