
Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Dinas Wrecsam 2026
Cefndir yr ymgynghoriad
Ym mis Hydref 2014 cyflwynodd Ddeddf Troseddau a Phlismona Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2014 (y Ddeddf) rymoedd newydd perthnasol i fynd i'r afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Ym mis Mawrth 2023, cymeradwyodd y Bwrdd Gweithredol weithrediad Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GGMC) yn Wrecsam.
Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi mai'r amser hiraf y gellir gweithredu GGMC yw tair blynedd, cyn bod angen adolygiad. Nid oes cyfyngiadau ar nifer y troeon y gellir adolygu ac ail-weithredu GGMC.
Hyd yma, mae'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus wedi cefnogi'r Cyngor a'i bartneriaid yn ein dull i fynd i'r afael  nifer o bryderon penodol yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal berthnasol ac annog pobl ddiamddiffyn i dderbyn cefnogaeth a gwasanaethau, gan geisio torri'r cylch o ymddygiad a bregusrwydd y gallant fod yn gaeth iddo.
O safbwynt digartrefedd, cysgu ar y stryd a begera, nod y Cyngor a phartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus yw cynnig cefnogaeth i bobl yn yr amgylchiadau hyn.
Drwy beidio mynd i'r afael yn effeithiol a phryderon, mae'n amlwg bod perygl i ansawdd bywyd trigolion, perygl i enw da Wrecsam, gan gynnwys colli masnach a gwneud y dref yn llai deniadol i fusnesau newydd, ac wedi hynny, gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr/ twristiaid Â'r ardal.
Beth ydym yn ei wybod?
Y GGMC yw un o'r arfau a'r grymoedd sydd ar gael yn y Ddeddf i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol er budd rhai unigolion diamddiffyn ac ar gyfer trigolion, ymwelwyr a busnesau lleol. Nid gorfodi yn unig yw'r ateb i'r problemau, ond mae'n rhan hanfodol o ymagwedd holistaidd rydym wedi ei mabwysiadu gan gynnwys cyfraniadau gan yr Awdurdod Lleol, Heddlu Gogledd Cymru, Iechyd a chyrff elusennol. Rydym yn gweithio ar y cyd i ddileu unrhyw rwystrau sy'n bodoli sy'n atal pobl ddiamddiffyn rhag ymgysylltu'n gadarnhaol gyda gwasanaethau a sicrhau y cynigir llwybrau cadarnhaol i bobl allan o'u sefyllfa.
Ar beth rydym yn ymgynghori arno?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i bennu barn y cyhoedd a chyrff eraill sydd  diddordeb o ran a oes cefnogaeth yn parhau i fod i'r mesurau sydd wedi eu cynnwys yn y GGMC ac y dylent barhau. Dangosir ardal y GGMC, os bydd yn cael ei gyflwyno, yn yr ardal o fewn y terfyn ar y map. Byddwn yn cyfeirio at hwn fel yr ardal'berthnasol'.
Sut fydd eich barn yn cael ei ddefnyddio
Bydd canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Gweithredol ym mis Chwefror 2026 a bydd ar gael ar wefan y cyngor.
Cyfnodau
Arolwg Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Dinas Wrecsam 2026
Ar beth rydym yn ymgynghori arno?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i bennu barn y cyhoedd, a chyrff eraill sydd  diddordeb, o ran a oes cefnogaeth yn parhau i fod, i'r mesurau presynnol sydd wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GGMC) yn canol y Ddinas ac y dylent barhau. Dangosir ardal y GGMC, os bydd yn cael ei gyflwyno, yn yr ardal o fewn y terfyn oren ar y map. Byddwn yn cyfeirio at hwn fel yr ardal 'berthnasol'.
Mae'r GGMC, gan gynnwys yr ardal yr effeithir arni, wedi'i atodi. Edrychwch ar hwn cyn ateb yr arolwg os gwelwch yn dda.
