Neidio i'r prif gynnwys
""

Iaith Cymraeg: Gwasanaeth Llyfrgelloedd Wrecsam, a Chanolfannau Adnoddau Cymunedol

Cyfnodau

Trosolwg cyfnodau
Cyfnod 1: Gwasanaethau Llyfrgell a Chanolfannau Adnoddau Cymunedol Wrecsam: Gwybodaeth am y Gymraeg.
Gwasanaethau Llyfrgell a Chanolfannau Adnoddau Cymunedol Wrecsam: Gwybodaeth am y Gymraeg.

Gwasanaethau Llyfrgell a Chanolfannau Adnoddau Cymunedol Wrecsam: Gwybodaeth am y Gymraeg.

18 Tachwedd 2024 12:00 AM - 20 Ionawr 2025 12:00 AM

Safonau’r Gymraeg

Mae Safonau’r Gymraeg yn hyrwyddo ac yn hwyluso’r Gymraeg ac yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru. Fel corff cyhoeddus, mae’r cyngor yn gwbl ymroddedig i Safonau’r Gymraeg ac wedi’i rwymo’n gyfreithiol i gydymffurfio â nhw. 

Pan ydym yn ymgynghori ar bolisi newydd neu ar adolygu un presennol, a phan ydym yn ymgymryd â gwaith ymchwil i’n helpu i wneud penderfyniad polisi, mae angen i ni feddwl am yr effaith ar:

 1.   Gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg; a

2.   Pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg 

Pan ydym yn sôn am bolisi, rydym yn golygu’r penderfyniadau a wnawn sy’n ymwneud â sut yr ydym yn gwneud busnes a’r camau gweithredu a gymerwn.