Neidio i'r prif gynnwys
""

Arolwg-Ysgol Cae'r Gwenyn

Byddwn yn gwrando ar eich barn am y cynnig hwn, gadewch i ni wybod pam eich bod yn cefnogi’r newidiadau arfaethedig yma neu beidio. 

Rydych chi'n edrych ar ddata amser real. Mae cyfrif cyfranogwyr yn cael ei ddiweddaru'n barhaus ar gyfer gweinyddwyr. Sylwch fod defnyddwyr rheolaidd yn gweld data wedi'i storio, a all arwain at wahaniaethau bach yn y niferoedd.
17 cyfranogwyr

Cyfnodau

Trosolwg cyfnodau
Cyfnod 1: Arolwg - Ysgol Cae'r Gwenyn
Arolwg - Ysgol Cae'r Gwenyn
Cyfnod 2: Adroddiad Ymgynghori - Ysgol Cae'r Gwenyn
Adroddiad Ymgynghori - Ysgol Cae'r Gwenyn
Cyfnod 3: Cyhoeddi Hysbysiadau Statudol - Ysgol Cae'r Gwenyn
Cyhoeddi Hysbysiadau Statudol - Ysgol Cae'r Gwenyn

Adroddiad Ymgynghori - Ysgol Cae'r Gwenyn

25 Ionawr 2025 12:00 AM - 8 Ebrill 2025 11:00 PM

Ymhen 13 wythnos o ddiwedd y cyfnod ymgynghori (a chyn cyhoeddi’r cynigion), bydd y Cyngor yn cyhoeddi adroddiad ymgynghori a fydd:

• Yn crynhoi’r materion a godwyd gan yr ymgyngoreion.

• Yn ymateb i’r rhain drwy ddarparu eglurhad, diwygio’r cynnig neu wrthod y pryderon, gyda rhesymau i gefnogi hynny.

• Yn manylu ar rinweddau cyffredinol y cynnig fel yr amlygwyd gan Estyn yn eu hymateb.

Gallai’r adroddiad ymgynghori hefyd wneud argymhellion i’r Bwrdd Gweithredol neu’r Corff Llywodraethu am sut i symud ymlaen (hynny yw cyhoeddi’r cynigion fel yr ymgynghorwyd arnynt gydag unrhyw addasiadau priodol, rhoi’r gorau i’r cynigion a chadw’r status quo, neu wneud newidiadau sylweddol i’r cynnig ac ail-ymgynghori).

Bydd y Cyngor yn sicrhau bod unrhyw safbwyntiau a fynegir gan y plant a’r bobl ifanc y mae’r cynnig yn effeithio arnynt yn cael eu hamlygu yn yr adroddiad ymgynghori, ac y bydd ar gael iddynt.

Bydd yr adroddiad ymgynghori yn cael ei gyhoeddi’n electronig ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a bydd yn destun gwiriadau hygyrchedd er mwyn sicrhau ei fod yn hygyrch i’r holl ymgyngoreion. Bydd copïau caled o’r adroddiad ar gael ar gais.