Neidio i'r prif gynnwys
""

Rhowch gymorth i ni lunio dyfodol llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau cymunedol Wrecsam: Cymerwch ran yn yr arolwg

Rhowch gymorth i ni lunio dyfodol llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau cymunedol Wrecsam

Rydych chi'n edrych ar ddata amser real. Mae cyfrif cyfranogwyr yn cael ei ddiweddaru'n barhaus ar gyfer gweinyddwyr. Sylwch fod defnyddwyr rheolaidd yn gweld data wedi'i storio, a all arwain at wahaniaethau bach yn y niferoedd.
909 cyfranogwyr

Cyfnodau

Trosolwg cyfnodau
Cyfnod 1: Rhowch gymorth i ni lunio dyfodol llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau cymunedol Wrecsam
Rhowch gymorth i ni lunio dyfodol llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau cymunedol Wrecsam
Cyfnod 2: Diolch am rannu eich barn am lyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau
Diolch am rannu eich barn am lyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau

Diolch am rannu eich barn am lyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau

28 Ionawr 2025 12:00 AM - Dim dyddiad gorffen

Dymuna Cyngor Wrecsam ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad diweddar ar ddyfodol ei llyfrgelloedd a'i chanolfannau adnoddau.

Mae'r cyngor yn rheoli 10 llyfrgell cangen, llyfrgell cyswllt cartref a llyfrgell dros dro, a phum canolfan adnoddau cymunedol.

Ond fel y rhan fwyaf o awdurdodau lleol, mae Wrecsam yn wynebu heriau ariannol sylweddol ac mae'n mynd yn anoddach cael dau ben llinyn ynghyd.

O ganlyniad, mae'r cyngor yn bwriadu arbed o leiaf £185,000 o'i gyllideb weithredu ar gyfer llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau.

Gofynnodd yr ymgynghoriad i bobl rannu eu barn ar opsiynau gwahanol ar gyfer arbed arian a darparu'r gwasanaethau hyn mewn ffordd wahanol.

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Corfforaethol: "Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Mae mor bwysig ein bod yn deall beth mae pobl yn ei ddisgwyl o'u llyfrgelloedd a'u canolfannau adnoddau wrth symud ymlaen, a chawsom 994 o ymatebion i gyd.

"Rydyn ni nawr yn dadansoddi'r holl ddata ac yn edrych i mewn i'r awgrymiadau a'r syniadau y mae pobl wedi'u cyflwyno. Bydd hyn yn cymryd amser, felly byddwch yn amyneddgar gyda ni.

"Unwaith y byddwn wedi cadarnhau'r opsiynau sydd ar gael, bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor craffu ac yna i'r Bwrdd Gweithredol am benderfyniad."