
Rhowch gymorth i ni lunio dyfodol llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau cymunedol Wrecsam: Mynegwch eich diddordeb
Os ydych chi’n unigolyn neu’n sefydliad a fyddai â diddordeb mewn helpu ni i ddatblygu neu ddarparu unrhyw un o’n gwasanaethau yna llenwch y ffurflen hon. Rydym yn gofyn am farn ar ystod o ddewisiadau ar sut gallwn ail-siapio y gwasanaethau rydym yn eu darparu, er mwyn cyrraedd pwysau ar y gyllideb a pharhau i fod yn gadarn yn ariannol.
Cyfnodau
Rhowch gymorth i ni lunio dyfodol llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau cymunedol Wrecsam: Mynegwch eich diddordeb
Mynegwch eich diddordeb
Os ydych chi’n unigolyn neu’n sefydliad a fyddai â diddordeb mewn helpu ni i ddatblygu neu ddarparu unrhyw un o’n gwasanaethau yna llenwch y ffurflen hon:
Mynegwch eich diddordeb (dolen gyswllt allanol yn agor mewn tab newydd).
Rydym yn gofyn am farn ar ystod o ddewisiadau ar sut gallwn ail-siapio y gwasanaethau rydym yn eu darparu, er mwyn cyrraedd pwysau ar y gyllideb a pharhau i fod yn gadarn yn ariannol.
Y dewisiadau rydym wedi’u cyflwyno yw:
- Darparu dau neu ragor o wasanaethau yn yr un lleoliad - un ai mewn adeilad sy’n perthyn i Gyngor Wrecsam, neu gan sefydliad arall. Gall hyn helpu i gyfuno gwasanaethau a lleihau neu rannu costau. Gelwir hyn yn ‘cydleoli gwasanaethau’.
- Bod Cyngor Wrecsam yn cynnal ac yn rhedeg Canolfannau Adnoddau Cymunedol a gwasanaethau llyfrgell, ond yn cytuno i sefydliadau eraill redeg rhai eraill yn annibynnol. Gelwir hyn yn ‘darpariaeth gwasanaethau cymysg sydd ar gael i’r cyhoedd’.
- Lleihau nifer y canolfannau adnoddau cymunedol a llyfrgelloedd sy’n cael eu gweithredu gan Gyngor Wrecsam, er budd gweithio gyda thrydydd partïon, er mwyn cyflawni darpariaeth gymuned, drwy ‘Drosglwyddiadau Asedau Cymunedol’ er enghraifft. Mae hyn yn golygu y gall y Cyngor drosglwyddo rheolaeth a pherchnogaeth ei Ganolfannau Adnoddau Cymunedol a’i lyfrgelloedd i sefydliad, fel y gallant eu rhedeg yn annibynnol i’r Cyngor.
Er nad oes penderfyniadau wedi cael eu gwneud, hoffwn glywed gan bobl, sefydliadau, neu grwpiau a fyddai â diddordeb yn y dewisiadau uchod, neu drwy wirfoddoli i helpu i gynnal gwasanaethau.
Os oes gennych ddiddordeb, neu hoffech ragor o wybodaeth, hoffwn glywed gennych.
Gallwch ateb y cwestiwn fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu grŵp, dim ond y cwestiynau sy’n berthnasol i chi sydd angen i chi eu hateb. Byddwn yn gofyn i chi am eich manylion cyswllt fel y gallwn ymateb i chi.
Mynegwch eich diddordeb (dolen gyswllt allanol yn agor mewn tab newydd).
