Neidio i'r prif gynnwys
""

Cynllunio ar gyfer ein cyllideb cyngor ar gyfer 2026/2027

Mae angen i Gyngor Wrecsam arbed £33.6 miliwn dros y tair flynedd ariannol nesaf. Mae hon yn sefyllfa ariannol ddifrifol a bydd ein dull o ymdrin â'r heriau hyn yn effeithio arnoch chi fel trigolion. Mae syniadau gennym ynghylch sut i wella effeithlonrwydd ym mhob adran yn y cyngor ac rydym am wybod a ydych chi'n cytuno â'r mesurau hyn.

Cyllid y Cyngor

Mae'r Cyngor yn derbyn ei gyllid o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys grant gan Lywodraeth Cymru, Ardrethi Busnes, Treth y Cyngor a Ffioedd a Thaliadau. 

 Mae ein blwyddyn ariannol yn rhedeg o fis Ebrill i fis Mawrth, ond mae cynllunio yn dechrau'r haf blaenorol pan fyddwn yn asesu cost ymrwymiadau a mentrau newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf. 

 Ein prif ffynhonnell incwm yw'r Grant Cynnal Refeniw (GCR) gan Lywodraeth Cymru. Ddiwedd yr hydref, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Setliad Dros Dro, sy'n rhoi syniad o faint y grant a lefel yr ardrethi busnes y gallem eu disgwyl ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae lefel y grant yn seiliedig ar Asesiad Gwariant Safonol (AGS) y Cyngor, sy'n amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn meddwl y dylem ei wario. Cesglir ardrethi busnes yn lleol ond fe'u gweinyddir ar sail Cymru gyfan.

 Yna cyhoedda Llywodraeth Cymru ei Setliad Terfynol. Mae'r Setliad Terfynol yn ein cynghori o'n cyfran derfynol o'r arian fel y gallwn osod lefelau'r gyllideb a'r dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

 Ym mis Chwefror mae'r Cyngor yn cytuno ar y gyllideb ac yn gosod lefel y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ac yn amlinellu o ble daw cyllid y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ganlynol a beth y bydd yn cael ei wario arno, gan gynnwys cyfraniadau i'r heddlu a chynghorau cymuned. 

 Ar ddiwedd y flwyddyn, rydym yn cyfrif am ein gwariant yn ystod y flwyddyn flaenorol yn y Datganiad o Gyfrifon sy'n cael ei arddangos yn gyhoeddus ac sy'n cael ei archwilio'n annibynnol gan Archwilio Cymru.

O ble daw ein harian

Cyllid 2025/26

Daw 54% o’r gyllideb o Lywodraeth Cymru.

Daw 21% o'r Dreth Gyngor.

Daw 25% o'r ffioedd rydyn ni'n eu codi am wasanaethau fel caniatâd cynllunio, casglu gwastraff, parcio ceir, trwyddedu a ffioedd swyddfa gofrestru.

Cyllid Refeniw 2025/26

Cyllideb y Cyngor – yr hyn rydyn ni'n gwario ein harian arno

Mae cyllideb y cyngor yn cynnwys 2 brif ran:

  • Gwariant refeniw (gwariant o ddydd i ddydd), a
  • Gwariant cyfalaf (buddsoddi mewn seilwaith).

Mae gwariant refeniw yn cyfeirio at wariant ar wasanaethau o ddydd i ddydd fel: 

  • rhedeg ysgolion,
  • gofalu am bobl sy'n agored i niwed,
  • casglu gwastraff,
  • cynnal parciau, a
  • gweithredu llyfrgelloedd.

Mae cyllideb refeniw y Cyngor yn nodi faint fydd yn cael ei wario yn y meysydd hyn. Y gyllideb refeniw ar gyfer 2025/26 yw £345.1m.


Cyllid Refeniw 2025/26 £345.1m

Mae gan wariant cyfalaf ffocws tymor hwy na gwariant refeniw. Mae’n cyfeirio at gaffael neu wella asedau. Er enghraifft, adeiladu ysgol newydd neu roi arwyneb newydd ar briffordd. 

Mae'r Rhaglen Gyfalaf yn rhaglen fuddsoddi sy'n nodi cynlluniau gwariant cyfalaf a sut y byddant yn cael eu hariannu dros gyfnod o 4 blynedd ac yn cefnogi blaenoriaethau'r cyngor.

Ariennir y gyllideb gyfalaf gan Setliad Cyfalaf Llywodraeth Cymru, drwy fenthyca darbodus, grantiau penodol neu dderbyniadau cyfalaf.

Cyfanswm cyllideb gyfalaf 2025/26 ar gyfer 2025/26 yw £66.9m a chaiff ei gwario’n y meysydd isod.

Rhaglen Gyfalaf 2025/26

Y pwysau ar ein cyllideb

Ar 19 Chwefror 2025, cymeradwyodd y Cyngor Gynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) oedd yn tynnu sylw at ffaith y bydd costau'n cynyddu £63.3 miliwn ar gyfer y cyfnod rhwng 2026/27 a 2028/29, sy'n cynnwys chwyddiant a galw cynyddol, tra tybir y bydd cyllid yn cynyddu £29.7 miliwn dros yr un cyfnod. Felly, mae hyn yn gadael diffyg refeniw posibl o oddeutu £33.6m ar gyfer y cyfnod 2026/27 i 2028/29. 

Ers 2014/15 mae bwlch cyllid y Cyngor (y gwahaniaeth rhwng gwariant a ariennir yn lleol net a chyllid gan Lywodraeth Cymru) wedi'i bontio drwy wneud newidiadau effeithlonrwydd a thoriadau gwerth tua £60m.

Mae cynnydd mewn chwyddiant, ynghyd â chynnydd sylweddol a pharhaus mewn pwysau galw, yn parhau i fygwth cynaliadwyedd ariannol.

 Mae'r Cyngor wedi rheoli sefyllfaoedd cyllidebol heriol iawn yn ddiweddar. Mae'r meysydd pwysau yn gyffredin i bob cyngor ac yn cynnwys:

·        Gofal Cymdeithasol Oedolion

·        Gofal Cymdeithasol Plant 

·        Darpariaeth Addysg Arbennig

·        Trafnidiaeth Ysgol

·        Ysgolion

·        Digartrefedd

·        Costau ynni

·        Mwy o ymatebion i ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â'r tywydd, e.e. llifogydd

Rhagdybiaethau cost a chyllid CATC

Y pwysau ar ein cyllideb

Ar 19 Chwefror 2025, cymeradwyodd y Cyngor Gynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) a oedd yn tynnu sylw at ddiffyg refeniw posibl o oddeutu £33.6m ar gyfer y cyfnod 2026/27 i 2028/29. Mae'r CATC yn ddogfen ddeinamig ac mae'n cael ei diweddaru'n rheolaidd wrth i'r wybodaeth ddiweddaraf lywio newidiadau i ragdybiaethau. Yr hinsawdd economaidd gyfnewidiol a'r effaith y mae'n ei chael ar gost darparu gwasanaethau, ochr yn ochr â thwf yn y galw am wasanaethau statudol neu sy’n cael eu harwain       gan alw yn golygu bod ystod o wahanol ganlyniadau bellach yn bosibl.

Blwyddyn ariannol 2024/25 oedd blwyddyn olaf cyfnod adolygu gwariant presennol Llywodraeth y DU. Yn y bôn, mae blwyddyn ariannol 2025/26 yn gyfnod adolygu gwariant blwyddyn. Felly, mae rhagolygon cyllido y tu hwnt i 2025/26 yn seiliedig ar ddadansoddiad o ddata a dadansoddiad ystadegol presennol, gan gydnabod rheolau cyllidol llywodraeth genedlaethol ac amlinellu polisïau gwariant.

Yn seiliedig ar asesiadau cyfredol o senarios a rhagolygon cyllid cyhoeddus cenedlaethol, mae'r rhagolygon ar gyfer y ddwy flynedd nesaf yn parhau i gyflwyno cyfnod heriol iawn i lywodraeth leol. Mae effaith y twf yn y galw a'r costau cysylltiedig o ddarparu gwasanaethau i'r rhai mwyaf agored i niwed yn parhau i fod yn fwy nag unrhyw ddisgwyliad rhesymol o gyllid y gellir ei godi yn lleol, yng nghanol setliadau cyllido cenedlaethol nad ydynt yn cydnabod graddfa'r mater. Mae natur anghenion gwasanaeth a graddfa'r twf mewn darpariaeth gwasanaethau sy'n ymwneud â phlant – boed hynny'n ysgolion, addysg arbennig, gofal cymdeithasol neu drafnidiaeth, yn peri risg amlwg i gynaliadwyedd ariannol y cyngor hwn a chynghorau eraill. Hyd nes y bydd cydnabyddiaeth genedlaethol o'r sefyllfa hon ac effaith ehangach y galw am ofal cymdeithasol, bydd llywodraeth leol yn parhau i fod mewn perygl o fod yn anghynaliadwy yn ariannol. Yn ychwanegu at hyn, mae'r diffyg setliadau ariannol aml-flwyddyn dibynadwy yn rhwystro gallu cynghorau i gynllunio y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol nesaf.

Bydd y Cyngor yn parhau i liniaru risgiau ariannol ac yn ymdrechu i gynhyrchu cyllidebau cynaliadwy o fewn y cyd-destun heriol hwn. Bydd y Rhaglen Newid yn allweddol i nodi opsiynau fel rhan allweddol o'r strategaeth gyllideb a'r strategaeth ddarparu gwasanaethau dros y 2-3 blynedd nesaf.

Cyfnodau

Trosolwg cyfnodau
Ein blaenoriaethau cyllideb 2026-2027

Ein blaenoriaethau cyllideb 2026-2027

11 Tachwedd 2025 - 7 Rhagfyr 2025

Fel y gwelwch, mae'r sefyllfa ariannol yn Wrecsam - a ledled y DU - yn anodd iawn ac mae'r effaith ar drigolion, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, bob amser yn flaenaf yn ein meddyliau.

Dyna pam mae clywed gennych chi mor bwysig. Wrth i chi weithio drwy'r arolwg, byddwch yn darllen am yr hyn y mae pob adran yn gweithio arno, a’r ffyrdd y byddem yn gallu arbed arian. Mae gwybod a ydych chi'n cytuno â'n hymagwedd, yn ogystal â’ch bod yn rhannu unrhyw feddyliau adeiladol eraill â ni, yn hanfodol i sut rydym yn symud ymlaen gyda'r gwasanaethau yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt.