
Sgwrs genedlaethol

Mae cymuned yn bwysig. Helpwch i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed
Mae'r Comisiwn Annibynnol ar Gymuned a Chydlyniant yn eich gwahodd i ymuno â'i Sgwrs Genedlaethol ar fywyd cymunedol y Deyrnas Unedig. Mae hwn yn gyfle cyffrous i gymryd rhan mewn ymarfer gwrando cyhoeddus mawr ac i lunio 'gweledigaeth gyffredin' genedlaethol o sut y gallwn fyw'n dda gyda'n gilydd.
Ymarfer gwrando mawr ar draws y Deyrnas Unedig sy'n holi pobl am eu profiadau o fywyd cymunedol, sy'n rhedeg o 20 Ebrill i ddiwedd Awst 2026. Ar draws y Deyrnas Unedig, mae cymunedau'n teimlo'n fwy darniog. Mae pobl yn tyfu i fyny ac yn heneiddio gyda llai o fannau i gyfarfod, cymysgu ac adeiladu cysylltiadau. A rhy aml, mae'r bobl sydd agosaf at y newidiadau hyn yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw lais yn yr hyn sy'n dod nesaf — mae'r Sgwrs Genedlaethol am newid hynny.
Bydd y mewnwelediadau a'r data a gaffaelir drwy'r Sgwrs Genedlaethol yn ffurfio rhan o adroddiad ac argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Gymuned a Chydlyniant, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn.
Cyfnodau
Survey
Mae cymuned yn bwysig. Helpwch i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed
Gallwch ddarllen mwy yma- Sgwrs genedlaethol
Cwblhewch arolwg Prifysgol Rhydychen: Cwblhwech yr arolwg
