Neidio i'r prif gynnwys
""

Cwestiynau Cyffredin-Ysgol Clawdd Wat

Bydd hwn yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad. 

Cyfnodau

Trosolwg cyfnodau
Cyfnod 1: Cwestiynau Cyffredin-Ysgol Clawdd Wat
Cwestiynau Cyffredin-Ysgol Clawdd Wat
Cyfnod 3: Cyhoeddi Hysbysiadau Statudol
Cyhoeddi Hysbysiadau Statudol

Adroddiad Ymgynghori

25 Ionawr 2025 12:00 AM - 8 Ebrill 2025 11:00 PM

Ymhen 13 wythnos o ddiwedd y cyfnod ymgynghori (a chyn cyhoeddi’r cynigion), bydd y Cyngor yn cyhoeddi adroddiad ymgynghori a fydd:

• Yn crynhoi’r materion a godwyd gan yr ymgyngoreion.

• Yn ymateb i’r rhain drwy ddarparu eglurhad, diwygio’r cynnig neu wrthod y pryderon, gyda rhesymau i gefnogi hynny.

• Yn manylu ar rinweddau cyffredinol y cynnig fel yr amlygwyd gan Estyn yn eu hymateb.

Gallai’r adroddiad ymgynghori hefyd wneud argymhellion i’r Bwrdd Gweithredol neu’r Corff Llywodraethu am sut i symud ymlaen (hynny yw cyhoeddi’r cynigion fel yr ymgynghorwyd arnynt gydag unrhyw addasiadau priodol, rhoi’r gorau i’r cynigion a chadw’r status quo, neu wneud newidiadau sylweddol i’r cynnig ac ail-ymgynghori).

Bydd y Cyngor yn sicrhau bod unrhyw safbwyntiau a fynegir gan y plant a’r bobl ifanc y mae’r cynnig yn effeithio arnynt yn cael eu hamlygu yn yr adroddiad ymgynghori, ac y bydd ar gael iddynt.

Bydd yr adroddiad ymgynghori yn cael ei gyhoeddi’n electronig ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a bydd yn destun gwiriadau hygyrchedd er mwyn sicrhau ei fod yn hygyrch i’r holl ymgyngoreion. Bydd copïau caled o’r adroddiad ar gael ar gais.