Neidio i'r prif gynnwys
""

Ymgynghoriad Cyhoeddus ynghylch Strategaeth Doiledau Ddrafft Cyngor Wrecsam

Cyfnodau

Trosolwg cyfnodau
Cyfnod 1: Arolwg - Strategaeth Doiledau Ddrafft Cyngor Wrecsam
Arolwg - Strategaeth Doiledau Ddrafft Cyngor Wrecsam

Arolwg - Strategaeth Doiledau Ddrafft Cyngor Wrecsam

20 Ionawr 2025 12:00 AM - 15 Ebrill 2025 11:00 PM

Diolch am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad pwysig hwn ynglŷn â’n Strategaeth Toiledau Cyhoeddus ddrafft. Mae’n rhaid i bobl gael mynediad at doiledau glân, diogel a thaclus er budd iechyd a lles ein cymuned.

Mae’r strategaeth hon yn mynd i’r afael â rhai o’r bylchau yn ein gwasanaeth ac yn mynegi ein gweledigaeth ar gyfer dull mwy hygyrch a chynhwysol o ddarparu toiledau cyhoeddus i bobl leol ac ymwelwyr.

Dymunwn fod yn gwbl agored ynglŷn â’r heriau’r ydym yn eu hwynebu wrth ehangu ein darpariaeth o doiledau cyhoeddus. Mae cyfyngiadau llym ar gyllideb y Cyngor ar hyn o bryd, sy’n golygu bod llai o arian i’w ddyrannu ar gyfer toiledau newydd neu ailwampio rhai presennol.

Gwyddom mor bwysig yw cael mynediad at doiledau cyhoeddus addas yn y gymuned, ond byddai ehangu’r ddarpariaeth yn golygu cynllunio’n ofalus a dyrannu adnoddau ychwanegol. Rydym yn ymrwymo i ymchwilio i ffyrdd eraill o wella ein cyfleusterau gyda’r gyllideb sydd ar gael inni, drwy bartneriaethau a grantiau, er enghraifft.

Hyderwn eich bod yn deall y sefyllfa, ac rydym yn croesawu unrhyw syniadau neu awgrymiadau sydd gennych ar gyfer gwneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael. Bydd eich barn yn cyfrannu at strategaeth sy’n bodloni anghenion ein cymuned. Gyda’n gilydd, gallwn weithio i sefydlu fframwaith sy’n sicrhau fod gan bawb fynediad at doiledau diogel a gweddus.

Yn ogystal â sylwadau ynglŷn â chynnwys y ddogfen ei hun, hoffem hefyd glywed barn pobl ynglŷn ag eglurder y ddogfen. A yw’r prif bwyntiau’n hawdd eu deall? A yw’r iaith a ddefnyddir yn glir ac yn hygyrch?

Adolygir y strategaeth unwaith bob dwy flynedd o leiaf ar ôl ei chyhoeddi. Yn ogystal â hynny, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn adolygu’r strategaeth toiledau lleol cyn pen blwyddyn ar ôl pob etholiad cyffredin ar gyfer ei ardal.

Gwerthfawrogwn eich cyfraniad, ac edrychwn ymlaen at glywed eich barn!

I gymryd rhan yn ein harolwg ar-lein ar y strategaeth doiledau ddrafft, cliciwch ar y botwm coch uchod sy'n dweud 'dechreuwch yr arolwg'. Darllenwch y strategaeth drwy glicio ar y dolenni isod cyn ateb yr arolwg i helpu i lywio eich atebion.