Neidio i'r prif gynnwys
""

Datblygu strategaethau i gefnogi gofal cymdeithasol oedolion: Hawdd ei ddarllen

Rydych chi'n edrych ar ddata amser real. Mae cyfrif cyfranogwyr yn cael ei ddiweddaru'n barhaus ar gyfer gweinyddwyr. Sylwch fod defnyddwyr rheolaidd yn gweld data wedi'i storio, a all arwain at wahaniaethau bach yn y niferoedd.
18 cyfranogwyr

Cyfnodau

Trosolwg cyfnodau
Cyfnod 1: Ymgynghoriad cychwynnol - Datblygu strategaethau i gefnogi gofal cymdeithasol oedolion: Hawdd ei ddarllen
Ymgynghoriad cychwynnol - Datblygu strategaethau i gefnogi gofal cymdeithasol oedolion: Hawdd ei ddarllen

Ymgynghoriad cychwynnol - Datblygu strategaethau i gefnogi gofal cymdeithasol oedolion: Hawdd ei ddarllen

13 Mai 2025 11:00 PM - 1 Gorffennaf 2025 11:00 PM

Rydyn ni’n ceisio gwella canlyniadau hirdymor ein dinasyddion. I wneud hyn, rydyn ni’n ysgrifennu dogfennau strategaeth. Bydd hyn yn helpu ein gwaith ym maes gofal cymdeithasol i oedolion.

Bydd dogfennau strategaeth yn dweud wrthoch chi beth rydyn ni am ei wneud. Bydd dogfennau strategaeth yn dweud wrthoch chi ein gwerthoedd craidd.


Mae dogfennau strategaeth yn bwysig. Maen nhw'n dweud wrthoch chi beth mae gofal cymdeithasol i oedolion CBSW yn bwriadu ei wneud.

Maen nhw’n cael eu cefnogi gan bolisïau a chanllawiau.

Maen nhw'n dangos sut y bydd y strategaeth yn gweithio.


Byddwn ni’n cynnwys pobl sy'n defnyddio gofal cymdeithasol i oedolion CBSW. Pobl sy'n cael eu heffeithio gan yr hyn mae gofal cymdeithasol i oedolion yn ei wneud.

Bydd hyn yn dod â gwahanol leisiau i newid gofal cymdeithasol i oedolion.

Yr enw ar hyn yw cyd-gynhyrchu.

Bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod newidiadau yn dangos 'Beth sy’n Bwysig' i'n dinasyddion.

Mae cyd-gynhyrchu yn golygu ein bod ni’n gofyn am eich barn er mwyn newid gofal cymdeithasol i oedolion.


Mae 9 cwestiwn yn yr ymgynghoriad hwn. Gallai gymryd tua 15-20 munud i gwblhau’r arolwg.


Debbie Roberts: Debbie1.roberts@wrexham.gov.uk


Neu gallwch chi ddod i’n digwyddiad wyneb yn wyneb yn yr Hwb Lles, Adeiladau'r Goron, Wrecsam ar 1.7.25 rhwng 13:30 a 15:30.

Diolch.