
Datblygu strategaethau i gefnogi gofal cymdeithasol oedolion
Er mwyn ychwanegu gwerth a dylanwadu ar well canlyniadau hirdymor i'n dinasyddion, mae angen cyfres o ddogfennau strategaeth i lywio a chefnogi ein gwaith ym maes gofal cymdeithasol i oedolion sy'n amlinellu ein bwriad yn unol â'n gwerthoedd craidd. Mae dogfennau strategaeth yn ddatganiadau o fwriad lefel uchel, eang, blaengar; yn eu tro, mae’r rhain yn cael eu cefnogi gan ddogfennau proses a chanllawiau perthnasol sy'n dangos sut mae'r strategaeth yn cael ei chyflwyno.
Rydyn ni am sicrhau ein bod yn cynnwys pobl â phrofiad a'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan faterion allweddol i ddod ag amrywiaeth o leisiau i ddylanwadu a llunio ein safbwynt strategol ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion. Byddwn ni’n mabwysiadu dull o gyd-gynhyrchu i sicrhau bod ein strategaethau yn adlewyrchu 'Beth sy'n Bwysig' i'n dinasyddion, ac felly rydyn ni’n gofyn am eich barn ar gyfres o feysydd strategol.
Cyfnodau
Adborth yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus
Fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus i ddatblygu strategaethau gofal cymdeithasol, dywedoch wrthym yr hoffech weld digwyddiadau y tu allan i ganol y dref. Felly rydym yn dod i leoliad yn agos atoch i rannu canlyniadau'r arolwg. Dewch i ymuno â ni er mwyn i chi allu.
Rhos
Llyfrgell y Rhos: 09/09/2025, 13: - 15:00
Mwynglawdd/Coedpoeth
Canolfan Cymunedol Plas Pentwyn: 30/09/2025, 10.00 - 11.30
Canol Dinas Wrecsam
Yr Hwb Lles Canolfan Cymunedol Adeiladau’r Goron: 30/09/2025, 13:00 - 14:30
Acton
Canolfan adnoddau cymunedol Acton: 01/10/2025, 13:00 - 14:30
Gresffordd
Llyfrgell Gresford: 07/10/2025, 13:00 - 14:30
Owrtyn
Ystafelloedd y Plwyf, Neuadd y Pentref, Owrtyn: 06/10/2025, 14:00 - 15.30
