Diweddariadau Ar Gyfer Yr Ymgynghoriad - Ysgol Arbennig Newydd yng Ngwersyllt
Gweler y diweddariadau a’r dogfennau ymgynghori sy'n ymwneud â'r cynnig hwn.
Bydd hwn yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad.
Cyfnodau
Cyfnod Gwrthwynebu a Chyhoeddi Hysbysiad Statudol
Cam 2 - Cyfnod Gwrthwynebu a Chyhoeddi Hysbysiad Statudol
Mae'r ymgynghoriad hwn bellach yn y cyfnod gwrthwynebu statudol. Dechreuodd y cyfnod gwrthwynebuar 16 Tachwedd 2026 a bydd yn dod i ben ar 16 Rhagfyr 2026.
Hysbysiad Statudol cyhoeddedig yw cyhoeddi cynnig terfynol yn ffurfiol. Bydd Hysbysiad Statudol yn cael ei gyhoeddi dim ond os bydd Bwrdd Gweithredol y Cyngor wedi penderfynu bwrw ymlaen â chynnig ar ôl ystyried yr holl ymatebion o’r broses ymgynghori yn yr adroddiad ôl-ymgynghori.
Gofynnwn yn garedig i ymgyngoreion ysgrifennu atom yn ystod y cyfnod gwrthwynebu dim ond os oes ganddynt wrthwynebiad swyddogol i'r Hysbysiad Statudol. Bydd unrhyw sylwadau cadarnhaol a dderbynnir yn ystod y cyfnod hwn yn cael eu trin fel gwrthwynebiadau hyd yn oed os ydynt o blaid y cynnig.
Gall ymgyngoreion gyflwyno eu gwrthwynebiadau i'r Hysbysiad Statudol drwy e-bostio ALNschoolconsultation@wrexham.gov.uk neu drwy ysgrifennu at: Ymgynghoriad ar Ysgol Arbennig Newydd, Addysg, Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1AR.
Os codir unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod gwrthwynebu statudol, bydd adroddiad gwrthwynebiadau’n cael ei gyhoeddi. Mae hwn ar gael ar wefan y Cyngor.
Sylwch y gall y dyddiadau uchod newid. Yn yr achos hwn, byddai unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi.

