
Plant Arolwg-Ysgol Parc Acton
I gymryd rhan yn ein harolwg ar-lein am syniadau ar gyfer yr ysgol, cliciwch ar y botwm coch sy’n dweud ‘llenwi’r arolwg’.
Isod gweler atodiad o fersiwn y plant o’r wybodaeth am ein syniadau ar gyfer newidiadau i’r ysgol hefyd, i chi eu darllen a’u deall, neu eu cwblhau a’i ddychwelyd ar bapur os oes well gennych, (Fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael).
Cyfnodau
Adroddiad Ymgynghori
Ymhen 13 wythnos o ddiwedd y cyfnod ymgynghori (a chyn cyhoeddi’r cynigion), bydd y Cyngor yn cyhoeddi adroddiad ymgynghori a fydd:
• Yn crynhoi’r materion a godwyd gan yr ymgyngoreion.
• Yn ymateb i’r rhain drwy ddarparu eglurhad, diwygio’r cynnig neu wrthod y pryderon, gyda rhesymau i gefnogi hynny.
• Yn manylu ar rinweddau cyffredinol y cynnig fel yr amlygwyd gan Estyn yn eu hymateb.
Gallai’r adroddiad ymgynghori hefyd wneud argymhellion i’r Bwrdd Gweithredol neu’r Corff Llywodraethu am sut i symud ymlaen (hynny yw cyhoeddi’r cynigion fel yr ymgynghorwyd arnynt gydag unrhyw addasiadau priodol, rhoi’r gorau i’r cynigion a chadw’r status quo, neu wneud newidiadau sylweddol i’r cynnig ac ail-ymgynghori).
Bydd y Cyngor yn sicrhau bod unrhyw safbwyntiau a fynegir gan y plant a’r bobl ifanc y mae’r cynnig yn effeithio arnynt yn cael eu hamlygu yn yr adroddiad ymgynghori, ac y bydd ar gael iddynt.
Bydd yr adroddiad ymgynghori yn cael ei gyhoeddi’n electronig ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a bydd yn destun gwiriadau hygyrchedd er mwyn sicrhau ei fod yn hygyrch i’r holl ymgyngoreion. Bydd copïau caled o’r adroddiad ar gael ar gais.
