Neidio i'r prif gynnwys
""

Arolwg ar gyfer Plant a Phobl Ifanc (Dan 18 Oed) - Ysgol Arbennig Newydd yng Ngwersyllt

Os hoffech gymryd rhan yn ein hymgynghoriad ar sefydlu ysgol arbennig newydd yng Ngwersyllt ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), cliciwch ar y botwm coch sy'n dweud, "cwblhewch yr arolwg".

Mae'r Cod Trefniadaeth Ysgolion (2026) yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol baratoi dogfen ymgynghori a chynnal sawl asesiad o effaith i roi ystyriaeth briodol i effeithiau cynnig ar y Gymraeg a'r Gymuned.

Gweler isod fersiwn i blant a phobl ifanc o'r ddogfen ymgynghori sy’n ymwneud â’r cynnig.

5 wythnosau ar ôl

Cyfnodau

Trosolwg cyfnodau
Cyfnod 1: Y Cyfnod Adborth Cychwynnol
Y Cyfnod Adborth Cychwynnol

Y Cyfnod Adborth Cychwynnol

2 Mehefin 2026 11:00 PM - 17 Gorffennaf 2026 11:00 PM

Cam 1 - Y Cyfnod Adborth Cychwynnol

Bydd y cyfnod adborth cychwynnol (arolygon, llythyrau, negeseuon e-bost, sylwadau o sesiynau galw heibio) ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yn dechrau ar 2 Mehefin 2026 a bydd yn dod i ben ar 16 Gorffennaf 2026. Dyma'r cyfnod pan fydd yr arolygon ar-lein ar gyfer oedolion a phlant a phobl ifanc yn fyw.

Mae sawl ffordd y gallwch gyfleu eich barn, gan gynnwys:

  • Llenwi’r arolwg ar-lein (gweler uchod am fanylion).
  • Anfon eich barn drwy e-bost at ALNschoolconsultation@wrexham.gov.uk
  • Dychwelyd y ffurflen ymateb y gellir gofyn amdani o'r cyfeiriad isod.

Fel arall, gallwch gyflwyno eich barn yn ysgrifenedig i:Ymgynghoriad ar Ysgol Arbennig Newydd, Addysg, Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1AR.

Oherwydd nifer yr ymatebion a dderbyniwn, ni fyddwn yn gallu cydnabod ymatebion ysgrifenedig nac ymrwymo i ohebiaeth â phartïon â diddordeb naill ai yn ystod neu ar ôl y cyfnod adborth cychwynnol.

Bydd yr holl ymatebion yn cael eu dadansoddi, a bydd themâu allweddol gydag enghreifftiau o sylwadau a ddaw i law, ar gael i Aelodau Etholedig mewn adroddiad ôl-ymgynghori at ddibenion gwneud penderfyniadau cyn penderfynu bwrw ymlaen â Cham 2 yr ymgynghoriad.

Ar ôl 16 Gorffennaf 2026, bydd yr arolwg ar-lein yn cau ac ni fydd modd ystyried unrhyw ymatebion ychwanegol a dderbynnir fel rhan o'r ymgynghoriad hwn.

Cynghorwn yn gwrtais na fydd unrhyw sylwadau yn cael eu trin fel gwrthwynebiadau ar hyn o bryd.