Neidio i'r prif gynnwys
""

Gwybodaeth Gefndirol-Ysgol Clawdd Wat

Mae’r Cyngor yn cynnig y newidiadau hyn gan fod y galw am leoedd disgyblion dros y 3 blynedd diwethaf yn Ysgol Gynradd Gymunedol Clawdd Wat wedi gostwng ac mae’r rhagolygon yn dangos y bydd nifer y lleoedd dros ben yn yr ysgol yn cynyddu.  

Rydych chi'n edrych ar ddata amser real. Mae cyfrif cyfranogwyr yn cael ei ddiweddaru'n barhaus ar gyfer gweinyddwyr. Sylwch fod defnyddwyr rheolaidd yn gweld data wedi'i storio, a all arwain at wahaniaethau bach yn y niferoedd.

Cyfnodau

Trosolwg cyfnodau
Cyfnod 1: Ymgynghori - Ysgol Clawdd Wat
Ymgynghori - Ysgol Clawdd Wat
Cyfnod 3: Cyhoeddi Hysbysiadau Statudol
Cyhoeddi Hysbysiadau Statudol

Adroddiad Ymgynghori

25 Ionawr 2025 12:00 AM - 8 Ebrill 2025 11:00 PM

Ymhen 13 wythnos o ddiwedd y cyfnod ymgynghori (a chyn cyhoeddi’r cynigion), bydd y Cyngor yn cyhoeddi adroddiad ymgynghori a fydd:

• Yn crynhoi’r materion a godwyd gan yr ymgyngoreion.

• Yn ymateb i’r rhain drwy ddarparu eglurhad, diwygio’r cynnig neu wrthod y pryderon, gyda rhesymau i gefnogi hynny.

• Yn manylu ar rinweddau cyffredinol y cynnig fel yr amlygwyd gan Estyn yn eu hymateb.

Gallai’r adroddiad ymgynghori hefyd wneud argymhellion i’r Bwrdd Gweithredol neu’r Corff Llywodraethu am sut i symud ymlaen (hynny yw cyhoeddi’r cynigion fel yr ymgynghorwyd arnynt gydag unrhyw addasiadau priodol, rhoi’r gorau i’r cynigion a chadw’r status quo, neu wneud newidiadau sylweddol i’r cynnig ac ail-ymgynghori).

Bydd y Cyngor yn sicrhau bod unrhyw safbwyntiau a fynegir gan y plant a’r bobl ifanc y mae’r cynnig yn effeithio arnynt yn cael eu hamlygu yn yr adroddiad ymgynghori, ac y bydd ar gael iddynt.

Bydd yr adroddiad ymgynghori yn cael ei gyhoeddi’n electronig ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a bydd yn destun gwiriadau hygyrchedd er mwyn sicrhau ei fod yn hygyrch i’r holl ymgyngoreion. Bydd copïau caled o’r adroddiad ar gael ar gais.