
Gwybodaeth Gefndirol-Ysgol Cae'r Gwenyn
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig canlynol:
I newid statws Ysgol Cae’r Gwenyn o ysgol feithrin prif ffrwd i ysgol gynradd arbennig a newid yr ystod oedran o 3-4 i 3-7 gan ddod i rym o fis Medi 2025 ymlaen.
Cyfnodau
Ymgynghori - Ysgol Cae'r Gwenyn
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig canlynol:
I newid statws Ysgol Cae’r Gwenyn o ysgol feithrin prif ffrwd i ysgol gynradd arbennig a newid yr ystod oedran o 3-4 i 3-7 gan ddod i rym o fis Medi 2025 ymlaen.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r galw am leoedd mewn ysgolion arbennig i blant ag anghenion dysgu ychwanegol wedi cynyddu yn Wrecsam. Mae nifer sylweddol o blant sydd ag anghenion mwy dwys a chymhleth angen lleoliad mwy arbenigol er mwyn bodloni eu hanghenion dysgu a lles. Drwy gyflwyno’r cynnig hwn, bwriad y Cyngor yw ymdrin â’r galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion arbenigol drwy gynyddu’r ystod oedran yn Ysgol Cae’r Gwenyn. Hefyd, mae’r Cyngor yn cydnabod nad yw statws presennol yr ysgol bellach yn addas. Bydd hyn yn galluogi i anghenion dysgu a lles ystod oedran mwy o blant ag anghenion dysgu ychwanegol gael eu bodloni mewn darpariaeth ysgol arbennig gofrestredig.
