
Gwybodaeth Gefndirol-Ysgol Gynradd Gymunedol Lôn Barcas
Mae’r Cyngor yn cynnig y newidiadau hyn gan fod y galw am leoedd disgyblion dros y 3 blynedd diwethaf yn Ysgol Lôn Barcas wedi gostwng ac mae’r rhagolygon yn dangos y bydd nifer y lleoedd dros ben yn yr ysgol yn cynyddu.
Cyfnodau
Ymgynghori - Ysgol Lôn Barcas
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig canlynol:
· Lleihau’r Nifer a Gaiff eu Derbyn i Ysgol Gynradd Gymunedol Lôn Barcas o 45 i 30 o fis Medi 2026.
Mae’r Cyngor yn cynnig y newidiadau hyn gan fod y galw am leoedd disgyblion dros y 3 blynedd diwethaf yn Ysgol Gynradd Gymunedol Clawdd Wat wedi gostwng ac mae’r rhagolygon yn dangos y bydd nifer y lleoedd dros ben yn yr ysgol yn cynyddu.
Mae Safonau’r Gymraeg yn hyrwyddo ac yn hwyluso’r Gymraeg ac yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru. Fel corff cyhoeddus, mae’r Cyngor yn gwbl ymroddedig i Safonau’r Gymraeg ac wedi’i rwymo’n gyfreithiol i gydymffurfio â nhw. Mae nifer o asesiadau effaith yn sail i’r ymgynghoriad hwn, yn cynnwys Asesiad o Effaith ar y Gymraeg, sydd ar gael yn gyhoeddus ar wefan y Cyngor a gellir ei ddarllen ochr yn ochr â chwestiynau’n ymwneud â’r Gymraeg yn yr arolwg hwn.
Yn dilyn ymgynghoriad ar y newid arfaethedig hwn, bydd y Cyngor yn ystyried a ddylid rhoi’r cynnig ar waith.
Dyma eich cyfle chi i ofyn cwestiynau a rhoi sylwadau fydd yn cael eu hystyried gan Fwrdd Gweithredol y Cyngor, fydd yn penderfynu sut i symud ymlaen.
