Neidio i'r prif gynnwys
""

Arolwg Oedolion-Ysgol Penygelli

I gymryd rhan yn ein harolwg ar-lein ar y cynnig i leihau'r Nifer Derbyn Cyhoeddedig (NDC) yn Ysgol Penygelli, cliciwch ar y botwm coch 'Cymerwch yr Arolwg'.

Mae sawl ffordd arall y gallwch chi gyfleu eich barn, gan gynnwys:

Dychwelyd y ffurflen ymateb (Cymraeg a Saesneg ar gael) y gellir gofyn amdani yn: Ymgynghoriad Ysgol Penygelli, Addysg, Adeiladau'r Goron, 31 Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BG neu;

E-bostio eich barn i PenygelliConsultation@wrexham.gov.uk

Anfonwch unrhyw ymatebion papur i: Ymgynghoriad Ysgol Penygelli, Addysg, Adeiladau'r Goron, 31 Stryt Caer, Wrecsam, LL13 8BG.

Cyfnodau

Trosolwg cyfnodau
Cyfnod 1: Arolwg-Ysgol Penygelli
Arolwg-Ysgol Penygelli

Arolwg-Ysgol Penygelli

2 Rhagfyr 2025 12:00 AM - 3 Chwefror 2026 12:00 AM

Yng Nghyngor Wrecsam, rydym wedi ymrwymo i wrando ar bobl Wrecsam.

Mae cyfranogiad da yn golygu bod pawb yn ein cymuned yn gwybod eu bod yn gallu ymuno â'r drafodaeth am y gwasanaethau Addysg rydym yn eu darparu. Mae hefyd yn golygu y gall pawb, gan gynnwys plant a phobl ifanc, ddweud eu dweud i helpu i lunio dyfodol Addysg yn Wrecsam.

Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori cynnig i leihau'r Nifer Derbyn Cyhoeddedig (NDC) yn Ysgol Penygelli.