Prosiectau
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio arno ar hyn o brydMae 20 prosiect ar gael.
Hidlo erbyn
Teitl y prosiect:Lleisiau’n Creu Newid - Diogelwch
Disgrifiad o'r prosiect:Lleisiau’n Creu Newid
Mae'r cwestiynau hyn wedi'u curadu gan Bwyllgor Diogelwch Senedd yr Ifanc Wrecsam. Mae'r Pwyllgor eisiau cael mwy o wybodaeth am y ffordd mae pobl ifanc yn gweld eu diogelwch a sut maen nhw'n teimlo os ydyn nhw'n ymweld â Chanol y Ddinas. Y nod yw casglu barn pobl ifanc a chefnogi gwaith parhaus y Pwyllgor Diogelwch
8 wythnosau ar ôl

Teitl y prosiect:Lleisiau’n Creu Newid- Lythrennedd
Disgrifiad o'r prosiect:Lleisiau’n Creu Newid
Cefnogwch y Senedd yr Ifanc drwy gwblhau eu harolwg ar Lythrennedd.
Mae Tîm Cyfranogiad Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam yn gwahodd pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed i rannu eu barn ar Lythrennedd: Dysgu barn pobl ifanc ar ddarllen a datblygu sgiliau llythrennedd. Nod yr arolwg hwn, a grëwyd gan bobl ifanc, yw deall barn ar lythrennedd yn well a llywio gwaith Senedd yr Ifanc.
Mae'r holl ymatebion yn ddienw a bydd yn helpu i lunio mentrau yn y dyfodol.
Wedi gorffen

225 cyfranogwyr
Teitl y prosiect:Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus Dinas Wrecsam 2026
Disgrifiad o'r prosiect:Bwriad Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GGMC) yw ymdrin â niwsans neu broblemau mewn ardal sy’n achosi niwed i ansawdd bywyd y gymuned leol. Rhoddwyd y pŵer i wneud GGMC i Gynghorau gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.
Cefndir yr ymgynghoriad
Ym mis Hydref 2014 cyflwynodd Ddeddf Troseddau a Phlismona Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2014 (y Ddeddf) rymoedd newydd perthnasol i fynd i'r afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Ym mis Mawrch 2023, cymeradwyodd y Bwrdd Gweithredol weithrediad Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GGMC) yn Wrecsam, a nodir gan yr ardal o fewn y terfyn oren ar y map (a gyfeirir ato o hyn allan fel yr ardal berthnasol).
Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi mai'r amser hiraf y gellir gweithredu GGMC yw tair blynedd, cyn bod angen adolygiad. Nid oes cyfyngiadau ar nifer y troeon y gellir adolygu ac ail-weithredu GGMC.
Hyd yma, mae'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus wedi cefnogi'r Cyngor a'i bartneriaid yn ein dull i fynd i'r afael  nifer o bryderon penodol yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal berthnasol ac annog pobl ddiamddiffyn i dderbyn cefnogaeth a gwasanaethau, gan geisio torri'r cylch o ymddygiad a bregusrwydd y gallant fod yn gaeth iddo.
Drwy beidio mynd i'r afael yn effeithiol a phryderon, mae'n amlwg bod perygl i ansawdd bywyd trigolion, perygl i enw da Wrecsam, gan gynnwys colli masnach a gwneud y dref yn llai deniadol i fusnesau newydd, ac wedi hynny, gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr/ twristiaid Â'r ardal.
Beth ydym yn ei wybod?
Y GGMC yw un o'r arfau a'r grymoedd sydd ar gael yn y Ddeddf i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol er budd rhai unigolion diamddiffyn ac ar gyfer trigolion, ymwelwyr a busnesau lleol. Nid gorfodi yn unig yw'r ateb i'r problemau, ond mae'n rhan hanfodol o ymagwedd holistaidd rydym wedi ei mabwysiadu gan gynnwys cyfraniadau gan yr Awdurdod Lleol, Heddlu Gogledd Cymru, Iechyd a chyrff elusennol. Rydym yn gweithio ar y cyd i ddileu unrhyw rwystrau sy'n bodoli sy'n atal pobl ddiamddiffyn rhag ymgysylltu'n gadarnhaol gyda gwasanaethau a sicrhau y cynigir llwybrau cadarnhaol i bobl allan o'u sefyllfa.
Ar beth rydym yn ymgynghori arno?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i bennu barn y cyhoedd a chyrff eraill sydd  diddordeb o ran a oes cefnogaeth yn parhau i fod i'r mesurau sydd wedi eu cynnwys yn y GGMC ac y dylent barhau. Dangosir ardal y GGMC, os bydd yn cael ei gyflwyno, yn yr ardal o fewn y terfyn oren ar y map. Byddwn yn cyfeirio at hwn fel yr ardal 'berthnasol'.
Sut fydd eich barn yn cael ei ddefnyddio
Bydd canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei ystyried gan y Bwrdd Gweithredol yn Mis Chwefror 2026 a bydd ar gael ar wefan y cyngor.
Mae'r GGMC, gan gynnwys yr ardal yr effeithir arni, wedi'i atodi. Edrychwch ar hwn cyn ateb yr arolwg os gwelwch yn dda.
Wedi gorffen

34 cyfranogwyr
Teitl y prosiect:Cynllunio ar gyfer ein cyllideb cyngor ar gyfer 2026/2027
Disgrifiad o'r prosiect:Mae angen i Gyngor Wrecsam arbed £33.6 miliwn dros y tair flynedd ariannol nesaf. Mae hon yn sefyllfa ariannol ddifrifol a bydd ein dull o ymdrin â'r heriau hyn yn effeithio arnoch chi fel trigolion. Mae syniadau gennym ynghylch sut i wella effeithlonrwydd ym mhob adran yn y cyngor ac rydym am wybod a ydych chi'n cytuno â'r mesurau hyn.
Wedi gorffen

95 cyfranogwyr
Teitl y prosiect:Arolwg Ymwybyddiaeth Carbon Cymunedol
Disgrifiad o'r prosiect:Datblygwyd yr arolwg hwn yn 2022 yn wreiddiol i gasglu gwybodaeth allweddol gan bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Wrecsam ynglŷn â newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio. Rydym yn ailadrodd yr arolwg i'n galluogi i weld a ydy barn a gwybodaeth wedi newid dros y 3 blynedd diwethaf.

159 cyfranogwyr
Teitl y prosiect:Arolwg Chwarae Mawr Wrecsam ar gyfer Rhieni a Gofalwyr 2025
Disgrifiad o'r prosiect:Rhaid i bob cyngor yng Nghymru ymchwilio i weld faint o amser a lle sydd gan blant i chwarae a chymdeithasu yn eu hardal.
Trwy lenwi’r arolwg hwn, byddwch yn ein cynorthwyo i greu darlun o’r sefyllfa i blant allu chwarae yn Wrecsam.
Wedi gorffen

94 cyfranogwyr

