
Ymgynghoriad ar y Cynnig i leihau'r Nifer Derbyn Cyhoeddedig (NDC) yn Ysgol Penygelli
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig canlynol:
I leihau'r Nifer Derbyn Cyhoeddedig (NDC) yn Ysgol Penygelli o fis Medi 2027
Yn dilyn ymgynghoriad ar y newid arfaethedig hwn, bydd y Cyngor yn ystyried a ddylid rhoi’r cynnig ar waith.
Dyma eich cyfle i ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau y bydd Bwrdd Gweithredol y Cyngor yn eu hystyried, ac yna’n penderfynu sut i fwrw ymlaen.
Bydd y cyfnod ymgynghori ffurfiol yn dechrau ar 2 Rhagfyr 2025 a bydd yn dod i ben ar 2 Chwefror 2026.






