Neidio i'r prif gynnwys
""

Gwybodaeth am y prosiect hwn

Ymgynghoriad ar y Cynnig i sefydlu ysgol arbennig newydd ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Ngwersyllt

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig sefydlu ysgol arbennig newydd ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Ngwersyllt.

Ar ôl ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig hyn, bydd y Cyngor yn ystyried a ddylid gweithredu'r cynnig.

Dyma’ch cyfle i ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau y bydd Bwrdd Gweithredol y Cyngor yn eu hystyried wrth benderfynu sut i fwrw ymlaen.

Bydd y cyfnod ymgynghori ffurfiol yn dechrau ar 2 Mehefin 2026 a bydd yn dod i ben ar 16 Gorffennaf 2026.

Cefndir a Rhesymeg dros Newid

Mae gan y Cyngor hanes cryf o ddiwallu ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol (ADY) gyda chontinwwm o ddarpariaeth arbenigol. Mae llawer o blant a phobl ifanc ag ADY yn cael eu haddysgu mewn ysgolion prif ffrwd. Mae'r awdurdod yn parhau i weithio gydag ysgolion prif ffrwd i fod yn fwyfwy cynhwysol ac ymatebol i ystod eang o anghenion.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r galw am leoedd ysgol arbenigol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi codi yn Wrecsam. Mae angen lleoliad mwy arbenigol ar nifer sylweddol o blant er mwyn diwallu eu hanghenion dysgu a lles.

Trwy gyflwyno'r cynnig hwn, mae'r Cyngor yn bwriadu mynd i'r afael â'r galw cynyddol am leoedd arbennig mewn ysgolion. Mae gan rai plant anghenion iechyd cymdeithasol, emosiynol a meddyliol (ICEM) sy'n golygu eu bod yn cael trafferth rheoli eu hemosiynau, eu hymddygiad a'u rhyngweithiadau cymdeithasol. Mae hyn yn effeithio ar eu dysgu a'u perthnasoedd. Gall anawsterau ICEM ddeillio o drawma, gorbryder, ADCG neu heriau eraill. Mae plant sydd ag anghenion ICEM angen amgylcheddau dysgu meithringar, cymorth gyda'u sgiliau cymdeithasol ac ymyriadau therapiwtig i'w helpu i deimlo'n ddiogel a bod pobl yn eu deall.

;