
Gwybodaeth am y prosiect hwn
Ymgynghoriad Ardal Stryd Henblas ynghylch Gwella’r Amgylchedd Cyhoeddus
Cynllun ardal gyhoeddus Stryt Henblas, safle’r Hippodrome a Stryt Caer Wrecsam.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (CBSW) yn ceisio comisiynu dyluniadau ardal gyhoeddus i wneud y mwyaf o gyfleoedd ar Stryt Henblas, safle’r Hippodrome a Stryt Caer yng nghanol dinas Wrecsam.
Y weledigaeth ar gyfer yr ardal hon yng nghanol dinas Wrecsam yw sicrhau bod y dyluniadau arfaethedig yn creu economi bleserus, amlbwrpas o ansawdd uwch yn ystod y dydd a'r nos, gan apelio at y bobl sy'n byw, yn ymweld ac yn gweithio yn Wrecsam.
Mae gwella Stryt Henblas, safle’r Hippodrome a Stryt Caer, drwy greu ardal gyhoeddus a mannau newydd i atgyfnerthu ymdeimlad cyson a dilys o hunaniaeth Wrecsam, gan ddenu ac annog defnydd ehangach gan y cyhoedd, yn sylfaenol i'r dyluniad. Mae cofleidio'r dull dinasoedd clyfar, sy’n edrych ar greu canol dinas sydd wedi'i alluogi'n ddigidol, yn allweddol i ddyluniad cyfan yr ardal gyhoeddus. Bydd y dyluniadau arfaethedig yn ehangu cynhwysiant a chymdeithasgarwch canol y ddinas gyda gwelliannau ar gyfer yr holl genedlaethau, gwelliannau hygyrchedd a gwelliannau diwylliannol. Bydd y cynllun gwella cyhoeddus arfaethedig ar gyfer yr ardaloedd hyn yn ychwanegu amrywiaeth i'r cynnig lletygarwch presennol / economi yn ystod y dydd, gyda’r nos ac yn ystod y nos, a bydd yn cefnogi busnesau bwyd a diod trwy ddefnyddio mannau cyhoeddus newydd.

