Neidio i'r prif gynnwys
""

Ymgynghoriad ar Ffederasiwn Ysgolion Dyffryn Dyfrdwy

Hysbysiad o Benderfyniad

Yn dilyn cyfarfod Bwrdd Gweithredol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddydd Mawrth 12 Mai 2026, gallwn gadarnhau bod y cynnig i gau Ysgol Gynradd Gymunedol Froncysyllte o 31 Awst 2026, neu yn gynt pe bai nifer y disgyblion yn gostwng i sero, wedi'i gymeradwyo.

Dyma’r rhesymau dros y penderfyniad:

  • Archwilio'r opsiynau sydd ar gael i Ffederasiwn Ysgolion Dyffryn Dyfrdwy a sicrhau cynaliadwyedd yn y dyfodol agos.
  • Darparu'r gwasanaethau addysg mwyaf effeithiol ac effeithlon i ddisgyblion.
  • Sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â'i ddyletswydd i fonitro'r galw am leoedd mewn ysgolion a sicrhau hyfywedd yr ystâd ysgolion.

Mae’r cyfnod gwrthwynebu ar gyfer yr ymgynghoriad hwn bellach ar gau.

_______________________________________________________

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar y canlynol:

Ffederasiwn Ysgolion Dyffryn Dyfrdwy

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd y Cyngor yn ystyried a ddylid gweithredu'r cynigion hyn.

Dyma eich cyfle i ofyn cwestiynau a gwneud sylwadau y bydd Bwrdd Gweithredol y Cyngor yn eu hystyried, ac yna’n penderfynu sut i fwrw ymlaen.

Bydd y cyfnod ymgynghori ffurfiol yn dechrau ar 23 Medi 2025 a bydd yn dod i ben ar 7 Tachwedd 2025.